Mae cyfres o brotestiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru heddiw yn erbyn diffyg gwasanaethau trên Cymraeg Trafnidiaeth Cymru.

Mae degau o gwynion wedi’u derbyn gan Gymdeithas yr Iaith.

Ymhlith y rhesymau am y cwynion mae gwefan uniaith Saesneg y corff, cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg ar y trenau, ap tocynnau uniaith Saesneg a pheiriannau hunan-wasanaeth nad ydyn nhw’n gweithio yn y Gymraeg.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud y dylai cwmni Keolis Amey, sy’n rhedeg y fasnachfraint newydd, fod yn cydymffurfio â’r Safonau ers mis Hydref y llynedd.

Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ymgynnull am 11.15yb yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog, Abertawe, Caerfyrddin, Aberystwyth, Machynlleth a Bangor.

‘Diffygion bron yn ddi-gynsail’

“Mae diffygion y cwmni trên newydd mor wael o ran y ddarpariaeth Gymraeg, mae bron yn ddi-gynsail fel gwasanaeth cyhoeddus,” meddai David Williams, is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.

“Rydyn ni’n ymwybodol o gwynion am nifer fawr o wasanaethau o bob math nad ydyn nhw ar gael yn Gymraeg, neu sy’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

“Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, rydyn ni wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddefnyddio’r pwerau eang sydd ganddi hi i gynnal ymchwiliad cyffredinol.

“Mae’n siom aruthrol bod Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r cwmni dan gytundeb iddynt wedi methu â sicrhau bod y gwasanaethau yma yn cael eu darparu yn Gymraeg er gwaetha’r holl amser paratoi oedd ganddyn nhw cyn i’r cytundeb newydd ddechrau.

“Dylen nhw fod wedi cynllunio i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn iawn.”