Bu farw’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Steffan Lewis, yn 34 oed.

Roedd yr Aelod Cynulliad wedi derbyn diagnosis o ganser yn Rhagfyr 2017, blwyddyn yn unig wedi iddo ddechrau cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Cynulliad.

Mae ei deulu wedi cadarnhau y bu iddo farw yn dawel yn Ysbyty Ystrad fawr yn Ystrad Mynach.

Ef oedd llefarydd Materion Allanol Plaid Cymru, gyda chyfrifoldeb tros Brexit, materion allanol a rhyngwladol, a’r Cwnsler Cyffredinol.

Teyrnged

“Colli Steffan yw’r ergyd waethaf bosib i’n teulu ni ac rydym yn gwybod bod pobl ledled Cymru yn rhannu ein galar,” meddai ei deulu mewn datganiad.

“Roedd Steff yn ein hysbrydoli ni bob dydd. Roedd e’n graig i ni, yn angor ac yn fwy na hynny yn arwr i ni. Yn anad dim, roedd yn ŵr, tad, mab a brawd cariadus.

“Fe frwydrodd Steffan yn erbyn ei salwch gyda’r un dewder a phenderfyniad a oedd yn ei wleidyddiaeth, a hyd yn oed pan roedd e mewn poen ddifrifol, fe wnaeth e barhau i wasanaethau’r bobl roedd e wrth ei fodd yn eu cynrychioli.

“Fe wnawn ni sicrhau y bydd ei atgof e’n para am byth – yn ein cymuned, yn ein calonnau ac yn fwy na dim drwy ei fab, y crwtyn bach roedd e’n ei garu, Celyn. Wnaiff Cymru fyth anghofio am ei gyfraniad a’r ffaith ei fod wedi gwneud ei orau glas i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

“Hoffwn ddiolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd wnaeth ofalu am Steffan yn ystod ei salwch, yn enwedig staff Ysbyty Ystrad Fawr a’i Oncolegydd, Dr Hilary Williams o Ganolfan Canser Felindre.”

“Mawredd ei gymeriad”

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, hefyd wedi talu teyrnged gan dynnu sylw at fawredd cymeriad Steffan Lewis.

“Roedd yn boblogaidd ymysg pob rhan o gymdeithas ac yn uchel iawn ei barch ymysg pleidiau eraill, ffaith gafodd ei phrofi pan ofynnwyd i Carwyn Jones pa wrthwynebydd gwleidyddol oedd e’n ei barchu fwyaf, wrth iddo adael ei swydd fel Prif Weinidog. Ei ateb, ‘Steffan Lewis’.

“Er ei fod mor anodd iddo siarad am ei salwch wrth wynebu amgylchiadau personol heriol, roedd yn credu’n gadarn bod dyletswydd arno i ddefnyddio’i brofiadau er budd pobol eraill,” meddai Adam Price wedyn.

“Fe gyffyrddodd â bywydau cymaint o bobol mewn ffordd mor gadarnhaol a chofiadwy, a bydd hyn yn serio’i gyflawniadau gwleidyddol a phersonol. Bydden nhw’n ymaros yng nghof y genedl am flynyddoedd hir i ddod.”