Mae nifer o fusnesau yn dal i fod yn y niwl ynglŷn â’r bwriad i godi 5c am fagiau plastig, ddyddiau’n unig cyn ei gyflwyno, yn ôl llefarydd yr wrthblaid ar yr amgylchedd Russell George AC.

Mae Mr George yn dweud nad yw manwerthwyr wedi cael digon o wybodaeth gan y Llywodraeth.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod nhw wedi gwneud digon i hysbysu busnesau cyn i’r cynllun newydd ddod i rym y penwythnos hwn.

Fe fydd yr arian sy’n cael ei dalu am y bagiau plastig yn mynd at achosion da – amcangyfrifir y bydd £3 miliwn yn cael ei roi i elusennau bob blwyddyn.

Wrth gael ei holi yn y Cynulliad, dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd bod 40,000 o becynnau gwybodaeth wedi eu dosbarthu i fusnesau ar hyd a lled Cymru.

Ond dywedodd Mr George: “Mae’r Gweinidog yn dweud ei fod yn hyderus eu bod wedi cysylltu â’r busnesau perthnasol… Ond y gwir amdani yw, mae na fusnesau yn fy etholaeth i sy’n dweud nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw wybodaeth o gwbl gan y Llywodraeth. Mae nhw yn y niwl ac mae hynny’n annerbyniol.

“Os oes 40,000 o’r pecynnau gwybodaeth yma wedi cael eu hanfon, dwi’n credu bod yn rhaid gofyn sut gafodd y busnesau yma eu targedu ac a ydy’r pecynnau wedi eu dosbarthu’n effeithlon.”

Ychwanegodd: “mae na bosibilrwydd y gall y newid pwysig yma fethu o’r cychwyn cyntaf a hynny oherwydd aneffeithlonrwydd y Llywodraeth.”