Mae un o brotestwyr amlycaf Cymru yn mynnu dal ati, er ei fod yn cael ei “dargedu” gan “ffasgwyr”.

Yn wreiddiol o Bort Talbot, mae Steve Bray bellach wedi dod yn enwog am ei ymrwymiad i wrthwynebu Brexit.

Am wyth awr bob dydd, mae ef a’i grŵp SODEM (Stand of Defiance European Movement) yn ymgynnull tu allan i Senedd San Steffan i brotestio.

Mae hefyd yn adnabyddus am sefyll yn y cefndir tra bod gwleidyddion yn cynnal cyfweliadau, er mwyn cael ei neges ar y teledu, a bellach mae’r wasg ynghyd â mawrion Tŷ’r Cyffredin yn ei adnabod yn iawn.

Targedu

Yn ddiweddar mae pryderon wedi codi am yr awyrgylch y tu allan i Senedd San Steffan, wedi i i’r Aelod Seneddol, Anna Soubry, gael ei thargedu gan brotestwyr.

Mae Steve Bray yn rhannu’r un pryderon ond yn mynnu na fydd yn rhoi’r gorau iddi er gwaetha’r rhai sy’n ei wrthwynebu.

“Dydyn nhw ddim yn brotestwyr,” meddai wrth golwg360. “Dechreuon nhw droi fyny rhyw bythefnos yn ôl. Dydyn nhw ddim yr un peth [â fi]. Wedyn mae gennych chi bobol mewn fests melyn sydd yn ffasgwyr asgell dde eithafol. Nhw yw’r rhai treisgar.

“Ydi, mae’r pedairi bum wythnos diwethaf wedi bod yn her,” meddai wedyn. “Dw i wedi cael pobol yn gweiddi yn fy wyneb. Digwyddodd hynny tra’r oeddwn yn gwneud cyfweliad…

“Mae’r bobol yma wedi bod yn fy nhargedu i am wythnosau. A dim ond pan wnaeth Anna [Soubry] droi fyny wnaethon nhw redeg i ffwrdd. Maen nhw o fy nghwmpas i bob awr, a phob dydd. Ond heb os nac oni bai [dw i ddim yn mynd i roi’r ffidil yn y to].”

Cefnu ar y cyfrifiadur

Ar ôl ymgyrchu o blaid yr Undeb Ewropeaidd am gyfnod trwy “ymladd ar-lein”, cefnodd Steve Bray ar ei gyfrifiadur ac ymuno â phrotestiadau.

Yng Nghymru mi osododd faneri Ewrop y tu allan i adeilad Cyngor Port Talbot, a chyflwynodd faner Ewrop i Neil Hamilton, yr Aelod Cynulliad UKIP, yn fyw ar y teledu.

Yn raddol dechreuodd brotestio fwyfwy yn Llundain gan gysgu ar soffas cyfeillion, a daeth pwynt lle’r oedd yn byw rhwng y ddinas honno a Phort Talbot.

Yn y pendraw penderfynodd symud i Lundain yn barhaol, gan dreulio wythnos yn ddigartref gan ddal ati gyda’r protestio.

Symud i Lundain

Bellach mae’n rhannu fflat yn Llundain, ond yn dal gafael ar ei gartref ym Mhort Talbot o hyd, ac yn byw ar “nesa peth i ddim” a “meal deals £3”.

Mae aelodau o’r cyhoedd yn medru cyfrannu arian ar y we i’w gadw mewn “fflagiau a phethau eraill”, meddai.

“Dw i’n angerddol,” meddai wrth esbonio ei sefyllfa. “Pan dw i’n ymrwymo i rywbeth, dw i’n ymrwymo’n llwyr.

“Bydd Brexit yn dod ag anghyfiawnder cymdeithasol i Brydain, ac mi fydd hynny’n hollol ddinistriol. Fyddwn ni byth yn well ein byd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”