Mae tref Harlech yn rhoi herio un o atyniadau mwyaf dinas Dunedin yn Seland Newydd, am deitl ‘Stryd Sertha’r Byd’.

Gyda graddiant brawychus o 1:3, Stryd Baldwin yn Dunedin yw un o’i atyniadau mwyaf, ac mae ei henw yn llyfr enwog y Guinness World Records.

Ond rŵan, o dan arweiniad Myrddin Phillips, mae trigolion Harlech yn herio Dunedin.

Maen nhw’n honni bod Ffordd Pen Llech yn y dref un radd yn fwy serth na Stryd Baldwin, gyda graddiant o 36% o gymharu â 35%.

Mae Myrddin Philips wedi arolygu mesuriadau cannoedd o fryniau a mynyddoedd – a bydd ei waith mesur yn cael ei ddadansoddi gan fathemategwr cyn cael ei gyflwyno i’r Guinness World Records.

“Rydym ni’n hyderus y bydd y stryd yn fwy serth na chofnod presennol record y byd, ond dim ond y data sy’n mynd i ddangos os yw yn wir,” meddai Myrddin Phillips.

Cystadleuaeth

Tydi trigolion Dunedin ddim yn barod i weld eu hatyniad gwerthfawr yn cael ei ddisodli, gyda rhai yn cynnig rhoi wyneb newydd ar dop y stryd i rwystro’r her o Harlech.

Yn sgil yr holl sylw i Stryd Baldwin, mae’r cyngor lleol wedi gorfod uwchraddio’r ardal i’w deilwra i ymdopi gyda’r miloedd o ymwelwyr sy’n heidio yno bob blwyddyn.

Mae llefydd bwyta, yfed a siopau wedi eu hadeiladau o’i gwmpas.

Mae maer Dunedin, Dave Cull, yn dweud fod y stryd wedi wynebu heriau o’r blaen.

“Os yw’n troi allan fod gan Gymru stryd sy’n fwy serth, bydd rhaid i ni drefnu un o’n daeargrynfeydd cyfnodol a thiltio Stryd Baldwin ychydig yn fyw,” meddai’n chwareus.