Mae dynes 72 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad arni yn ei chartref ym Mhontarddulais ger Abertawe.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Heol Garnswllt, Pontarddulais am 8.15yb ar ddydd Mercher, 9 Ionawr.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae ditectifs sy’n ymchwilio i’r digwyddiad yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus yn ardal Heol Garnswllt, neu a oedd yn teithio drwy’r ardal ar y pryd gyda fideo dash-cam i gysylltu â nhw.

Dywedodd y Ditectif Carl Price o Heddlu Abertawe: “Roedd hyn yn ddigwyddiad difrifol iawn sydd wedi gadael y dioddefwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu i ddod o hyd i bwy bynnag oedd yn gyfrifol,  i gysylltu â ni.

“Hoffwn sicrhau trigolion lleol ein bod wedi rhoi rhagor o swyddogion ar batrôl yn yr ardal.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 19000010488.