Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Mark James, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ym mis Mehefin eleni.

Fe ddechreuodd weithio i Gyngor Sir Gâr ym mis Mawrth 2002, a chyn hynny bu’n Brif Weithredwr yng Nghyngor Bwrdeistref Boston, Lloegr.

Derbyniodd anrhydedd CBE (Cadlywydd yr Ymerodraeth Brydeinig) gan y Frenhines yn 2012, ac mae wedi gweithio yn Westminster a Barnet yn Llundain yn y gorffennol.

Cafodd ei feirniadu gan gynghorwyr sir y llynedd, wrth i WalesOnline adrodd ei fod yn ennill cyflog uwch na Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May. Yn 2016 mi ddenodd sylw’r wasg wedi iddo ennill achos llys yn erbyn y blogiwr.

“Braint”

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd arwain tîm ardderchog o swyddogion yn Sir Gaerfyrddin dros yr 17 mlynedd diwethaf,” meddai Mark James mewn datganiad heddiw (dydd Iau, Ionawr 10).

“Mae wedi bod yn bleser cael bod yn rhan o [adfywiad cyffrous] yn ein sir. Hoffwn dalu teyrnged i’r cynghorwyr lawer sydd wedi helpu i lywio’r rhaglen ddatblygu hon a diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u ffydd.”

Mae disgwyl i Mark James adael ym mis Mehefin, ac mae Cyngor Sir Gâr yn dechrau ar y broses o benodi olynydd iddo.