Mae grŵp o famau sengl o bob cwr o Gymru wedi beirniadu mudiad yr Urdd am beidio ag ystyried rhieni sengl wrth gynnig mynediad am ddim i’w haelodau i’r atyniad twristaidd, Folly Farm, yn Sir Benfro.

Ar eu cyfrif Facebook, mae’r ‘Cwtsh Ieir’ yn disgrifio ei hun yn grŵp sy’n cynnig “cymorth, cefnogaeth a chyfeillgarwch ar gyfer mamau sengl”, ac mae’n ymddangos bod ganddo 64 o aelodau ar-lein.

Mewn llythyr at Brif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, sydd wedi dod i law golwg360, mae aelodau’r grŵp yn dweud eu bod” wedi’u siomi yn fawr” gyda thelerau’r cynnig sy’n ymwneud â Folly Farm, sydd ond yn rhoi mynediad am ddim i aelodau ar y amod eu bod yng nghwmni dau oedolyn sy’n talu’n llawn.

“Mae cymorth ariannol ar gyfer teuluoedd yng Nghymru yn werthfawr iawn gan fod 23% o blant ein gwlad sydd efo dau riant yn byw mewn tlodi (Joseph Rowntree Foundation, 2018),” meddai’r llythyr gan Cwtsh Ieir.

“Fodd bynnag, pan ystyriwch bod dwywaith gymaint (46%) o blant i rieni sengl yn byw mewn tlodi, tybed eich bod yn gweld pwysigrwydd blaenoriaethu cynigion a chymorth ariannol i’r teuluoedd yma?”

Newyddion gwych! ? Guess what?!O heddiw hyd at Ebrill 30, gall aelodau'r Urdd gael mynediad am ddim i Folly Farm…

Posted by Urdd Gobaith Cymru on Friday, 4 January 2019

Ymateb “ansensitif”

Sali Burns o’r Waunfawr, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi ysgrifennu ar ran y grŵp yn beirniadu ymateb “ansensitif” gan y mudiad i ymholiad gan riant ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â rhieni sengl.

Maen nhw’n dweud ei fod yn “hunan-longyfarch ac yn fwy gwerthfawrogol o ymroddiad y cwmnïau nag o ddifrifoldeb sefyllfa rhieni sengl”.

Yn ôl yr ymateb gan yr Urdd i’r sylwadau ar wefan Facebook, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bob cwmni sydd yn gweithio gyda ni i gynnig buddion i’n aelodau, ac rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau mwy o gynigion mewn mwy o leoliadau i’n aelodau, felly bydd mwy i ddod yn y dyfodol agos.”

Ymateb yr Urdd

“Dyma’r flwyddyn gyntaf i ni gynnal cynigion amrywiol i’n haelodau, ac ers mis Medi mae’r cynigion yn cynnwys disgownt o siop Mistar Urdd, bowlio yng Nglan-llyn a sgïo yn Llangrannog ynghyd ag amryw o gystadlaethau.

“Rydym yn cydnabod nad yw’r sefyllfa a’r cynnig drwy Folly Farm yn ddelfrydol i bawb, ac rydym yn ddiolchgar i Cwtsh Ieir am gysylltu â ni ac am eu sylwadau. Rydym mewn trafodaethau i weld a oes modd edrych ar gynigion amrywiol newydd neu adolygu’r telerau.

“Ein bwriad dros y misoedd nesaf yw cyhoeddi mwy o gystadlaethau gyda chwmnïau ar hyd a lled Cymru, ac wrth gwrs, bydd y pwyntiau a godwyd gan Cwtsh Ieir yn sicr yn cael eu hystyried wrth drafod gyda’r cwmnïau yn y dyfodol. Ein bwriad wrth greu ymgyrchoedd ‘cynigion i aelodau’ yw i gynnig profiadau cynhwysol i’n haelodau i gyd.”