Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru gyfarfod ag arweinwyr cynghorau lleol heddiw (Ionawr 10), er mwyn trafod eu cynlluniau ar gyfer ‘Brexit dim cytundeb’.

A llai na 80 diwrnod cyn bod disgwyl i wledydd Prydai adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Mark Drakeford yn rhybuddio am yr “argyfwng amlwg” o ddim cytundeb.

Ar y cyd â’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, a’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, bydd y Prif Weinidog newydd yn cyfarfod â’r Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol.

Mae’r cyngor hwnnw’n cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr cynghorau cymuned a thref, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr heddlu a’r awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau parciau cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu cronfa gwerth £50 ar gyfer helpu sefydliadau, busnesau a’r sector cyhoeddus i baratoi ar gyfer Brexit.

Dim cytundeb yn “drychinebus”

“Byddai ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychinebus, ac mae’n rhaid osgoi hynny,” meddai Mark Drakeford ar drothwy’r cyfarfod.

“Byddai’n amharu’n sylweddol ac yn niweidio’n heconomi, swyddi, masnach a gwasanaethau cyhoeddus.

“Byddai pob sector yn cael ei effeithio mewn rhyw ffordd, ac er nad yw’n bosibl lliniaru’r effaith yn gyfan gwbl, mae’n rhaid i ni baratoi a cheisio gweithio i gael y ffurf lleiaf niweidiol o Brexit â phosib.

“Dylai holl sector cyhoeddus Cymru fod wedi hen ddechrau cynllunio wrth gefn, rhag ofn na fydd cytundeb.”