Mae’r cwmni banc digidol Monzo wedi derbyn £950,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn creu 312 swydd yng Nghaerdydd.

Er bod y cwmni eisoes a swyddfeydd yn y brifddinas yn barod ac yn cyflogi 50 o bobol, maen nhw wedi dweud y byddent yn symud mewn i rai newydd yn fuan, ac yn ehangu.

Mae gan Monzo 1.3 miliwn o gwsmeriaid a dros 100,000 o ddefnyddwyr newydd bob mis  – sy’n ei wneud y banc digidol sy’n datblygu gyflymaf yng ngwledydd Prydain.

“Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn glir iawn ar ein hymrwymiad i sbarduno diwydiannau’r dyfodol a chefnogi busnesau i arloesi,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Yn ôl Ken Skates “mae model busnes arloesol Monzo, a’i dwf cyflym” yn golygu ei fod wedi datblygu i fod ymhlith banciau digidol mwya’r byd.

“Fel Llywodraeth Cymru rydym yn falch o fod wedi eu cefnogi i ehangu yng Nghymru,” meddai Ken Skates.

Amodau economaidd deniadol

Yn ôl cyd-sylfaenydd a phrif weithredwr Monzo, Tom Blomfeld, “ mae poblogaeth o bobol addysgedig ac amodau economaidd deniadol yng Nghaerdydd.”

Mae’n “gyffrous iawn” am y datblygiad” o ystyried y “safon o bobol” maen nhw wedi denu.

“Mae’r cyflog cychwynnol rhywbeth fel £18,000 – £20,000,felly i swyddi tebyg mae’r tal yn dda iawn.”