Mae Aelod Seneddol Ceidwadol yn dweud fod pethau wedi gwaethygu o ran diogelwch yn San Steffan.

Heddiw, mae cryn sylw wedi’i roi i lythyr gan Aelodau at Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan yn sôn am y “dirywiad” yn y safonau diogelwch i tu allan i San Steffan ddoe (dydd Llun, Ionawr 7). Mae’n dilyn ymchwiliad yr heddlu i ddigwyddiad ar College Green pan gafodd Aelod Seneddol Ceidwadol, Ann Soubry, ei galw yn “Natsi.”

“Dw i ddim yn poeni, ond dw i’n gwybod yn iawn mae problemau,” meddai Glyn Davies wrth golwg360, cyn ychwanegu bod problemau hyn “yn fwy nag yr oedden nhw”.

“Mae peryg adref, yn Sir Drefaldwyn, ac wrth gerdded lawr i’r Millbank mae pobol yn gweiddi ac yn cerdded yn agos i mi.”

“Ond dw i’n lwcus, dw i’n gallu delio â fe. Ond dw i ddim yn siŵr mae pawb, a dw i ddim yn meddwl ei bod yn dda i wleidyddiaeth.”