Mae rheolwr newydd un o dafarndai enwocaf Aberystwyth wedi dod o hyd i hen bosteri wrth adnewyddu’r adeilad.

Cafodd y Cŵps ei chau ym mis Tachwedd 2017, ond ar ôl misoedd o fod yn segur, mae dyn busnes 33 oed o Dalybont, Ceredigion yn bwriadu ailagor y lle ddechrau mis Chwefror.

Ers degawdau, mae’r dafarn wedi bod yn gyrchfan i fyfyrwyr a thrigolion Cymraeg y dref, a bu hefyd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer gigs a digwyddiadau Cymraeg.

Yn ôl James Fox, sydd wedi cymryd y brydles gan berchnogion yr adeilad, Bragdy Felin-foel, ei nod yw gwneud y dafarn yn un sy’n “agored i bawb yn Aberystwyth”.

Yn ogystal â darparu tŷ tafarn traddodiadol, mae ei gynllun busnes hefyd yn  cynnwys darparu llety a chaffi sydd â phwyntiau gwefru a mynediad i’r we.

‘Hen bosteri cwrw a ffilmiau’

Mae’r gwaith o “foderneiddio” y dafarn eisoes wedi cychwyn, yn ôl James Fox ymhellach, ac wrth gydnabod pwysigrwydd y lle i drigolion y dref, fe gynhaliodd pleidlais ar Facebook yn ddiweddar ynglŷn â pha liw y dylid paentio muriau allanol yr adeilad – gyda’r pleidleiswyr yn dewis Artichoke Green.

Wrth adnewyddu’r tu fewn wedyn, fe lwyddodd y rheolwr i ganfod hen bosteri a oedd yn cynnwys hysbysebion am ffilmiau a gwahanol fathau o gwrw.

Ond er i’r hen Cŵps fod yn enwog am y llu o bosteri Cymraeg a oedd ganddi ar ei waliau, ni ddaeth James Fox o hyd i’r un o’r rhain.

“Rydyn ni wedi dod o hyd i dipyn o hen bosteri,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n hoffi gweld pethau fel hyn, yn enwedig gan eu bod nhw’n rhan o hanes.

“Ond, yn anffodus, doedden i ddim yn gallu eu hachub, gan eu bod nhw’n cadw pilio i ffwrdd.

“Wnes i ddim dod o hyd i bosteri Cymraeg. Fe ddywedodd rhywun fod yna fap Cymraeg yn rhywle, ond wnes i ddim llwyddo i ddod o hyd iddo.”