Mae Heddlu’r Gogledd yn holi tri pherson ar ôl i gar fethu a stopio ar ôl taro plentyn 10 oed yn Saltney, Sir y Fflint brynhawn ddoe (dydd Sul, 6 Ionawr).

Mae’r bachgen yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae gyrrwr y car, dyn 23 oed, ynghyd a dynes 27 oed a dyn 30 oed yn cael eu cadw yn y ddalfa a’u holi gan yr heddlu yn dilyn y gwrthdrawiad.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Park Avenue yn Saltney am 4.19pm, pan darodd Ford Fiesta llwyd y bachgen a methu â stopio. Cafodd y cerbyd ei ddarganfod yn ddiweddarach a’i archwilio’n fforensig.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth gyda’u hymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod X002696.