Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod o blaid cynnal refferendwm arall ar Brexit, ond bod angen i “gyfres o gamau” ddigwydd yn gyntaf.

Daw sylwadau Mark Drakeford ar ôl i lythyr agored, sydd wedi’i arwyddo gan fwy na 60 o wleidyddion ac ymgyrchwyr o Gymru, alw arno i ddefnyddio’i rôl fel Prif Weinidog Cymru i fynnu “Pleidlais y Bobol” newydd.

Ymhlith y rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr mae g wleidyddion blaenllaw’r Blaid Lafur, gan gynnwys yr Aelodau Seneddol, Owen Smith a Stephen Doughty.

Yn ei gynhadledd i’r wasg gyntaf ers olynu Carwyn Jones ym mis Rhagfyr, fe ddywedodd Mark Drakeford yr hoffai weld y Prif Weinidog Theresa May yn sicrhau cytundeb Brexit neu alw Etholiad Cyffredinol cyn cynnal ail refferendwm.

Os yw Tŷ’r Cyffredin yn “ddisymud ac yn methu â dod i gytundeb, yna’r ateb cyfansoddiadol cywir” yw cynnal etholiad cyffredinol, meddai. “Dyna beth fyddai’n digwydd mewn unrhyw sefyllfa arall…

“Os nad oes cytundeb gyda Thŷ’r Cyffredin, a dim Etholiad Cyffredinol, yna’r dewis arall yw dychwelyd at y cyhoedd a gofyn iddyn nhw benderfynu.”

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar gynllun Brexit Theresa May mewn ychydig dros wythnos, a hynny ar Ddydd Mawrth, Ionawr 15.