Mae’r gwaith o glirio safle oedd wedi storio gwastraff sgip yn anghyfreithlon yng Ngwynedd wedi  dechrau heddiw (dydd Llun, 7 Ionawr).

Cafodd safle’r cwmni Porthmadog Skip Hire ar Ystâd Ddiwydiannol Penamser ym Mhorthmadog ei adael gan y gweithredwyr ym mis Medi 2016 yn dilyn erlyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Dros y pedair wythnos nesaf bydd contractwyr CNC yn clirio’r gwastraff sydd yn pwyso 7,800 tunnell – sydd 2,800 dros y 5,000 tunnell sy’n cael ei ganiatáu.

Cafodd perchnogion y cwmni Michael, Patricia a Joseph Gaffey eu canfod yn euog o storio’r gwastraff a oedd yn risg i’r amgylchedd lleol.

Fe gawson nhw eu dedfrydu i 10 mis yn y carchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Mawrth 2017 a bu’n rhaid iddyn nhw dalu oddeutu £350,000 yn dilyn gwrandawiad o dan y Ddeddf Elw Troseddau.

Bydd yr arian yma, ar ben grant gan Lywodraeth Cymru, yn mynd tuag at y gost o glirio’r gwastraff sy’n mynd i fod oddeutu £800,000.

“Neges gref i’r diwydiant gwastraff”

“Gall storio gwastraff yn anghyfreithlon niweidio’r amgylchedd, peri risg i iechyd dynol a thanseilio busnesau sy’n gweithredu o fewn y gyfraith,” meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr achos hwn yn anfon neges gref i’r diwydiant gwastraff nad ydym yn goddef gweithredwyr anghyfreithlon sy’n tanseilio gweithredwyr cyfrifol sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.”

“Byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau aflonyddwch i fusnesau cyfagos tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.”

Gan fod y gwastraff wedi bod ar y safle ers peth amser, efallai y bydd llygod mawr yn cael eu haflonyddu yn ystod y gwaith. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud y dylid cysylltu â Gwasanaeth Rheoli Plâu Cyngor Gwynedd ar unrhyw faterion o’r fath ar 01766 771000 (08:30 – 17:30, dydd Llun – dydd Gwener).