Mae dros 60 o wleidyddion ac arweinwyr grwpiau ymgyrch yng Nghymru yn galw ar Mark Drakeford i roi pwysau ar Lywodraeth Prydain ac arweinyddiaeth y Blaid Lafur i gefnogi ail refferendwm ar Brexit.

Ymhlith y rheiny sydd wedi arwyddo’r llythyr agored at Brif Weinidog Cymru mae’r Aelodau Seneddol Llafur, Owen Smith a Stephen Doughty; Aelodau Cynulliad Plaid Cymru a Llafur, a chadeirydd grŵp Cymru dros Ewrop, Geraint Talfan Davies.

Maen nhw’n dweud bod y “parlys” a’r “anrhefn” yn San Steffan ar hyn o bryd yn “fygythiad difrifol i bobol, economi a chymunedau Cymru” ac mai refferendwm newydd yw’r “unig ffordd allan o’r cyfyngder Seneddol”.

 ‘Pleidlais y Bobol’

Daw’r llythyr yn dilyn arolygon diweddar sy’n dangos bod yna fwyafrif llethol ymhlith cefnogwyr a phleidleiswyr Llafur o blaid refferendwm newydd.

Mae’r Prif Weinidog newydd, Mark Drakeford, eisoes wedi galw am estyniad ar gyfer Erthygl 50 y tu hwnt i’r dyddiad cau ar Fawrth 29, ond mae’r llythyr yn ei annog i ddefnyddio’i swydd i fynnu “Pleidlais y Bobol newydd”.

Mae angen pleidlais newydd o’r fath, medden nhw, hyd yn oed os yw Etholiad Cyffredinol yn cael ei alw ai peidio.

“Fel Ewropeaid Cymreig, rydym yn edifarhau canlyniad y refferendwm yn 2016 yn fawr, ond ni fydd Brexit yn lleddfu’r anfodlonrwydd a’r dadrithiad a fynegodd ynghylch ein hamgylchiadau economaidd a chymdeithasol,” meddai’r llythyr agored.

“Yn lle hynny, bydd Brexit yn ei wneud yn llawer anoddach mynd i’r afael â nifer fawr o broblemau dwys sy’n effeithio fwyaf ar ein bywydau.”

Angen “arweinyddiaeth ddewr ac eglurder”

Mae’r llythyr hefyd yn gwrthod cytundeb Theresa May â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’n disgrifio’r ‘datganiad gwleidyddol’ fel “rhestr 27 tudalen o faterion heb eu datrys ac, weithiau, dyheadau sy’n gwrthdaro”.

“Nid yw’n dod a’r ansicrwydd i ben, mae’n ei barhau,” meddai ymhellach. “Nid yw’n sail i roi’r gorau i ddiogelwch ein haelodaeth bresennol o’r Undeb Ewropeaidd, mae’n ei ychwanegu.”

Mae hefyd yn rhybuddio bod sefyllfa ‘dim cytundeb’ yn “berygl go iawn”.

“Mae difrifoldeb ein sefyllfa yn galw am arweinyddiaeth ddewr ac eglurder – o’r Wrthblaid gymaint â’r Llywodraeth – ynghyd ag amser i ymgynghori â’r cyhoedd eto. Dyma’r unig ffordd allan o’r cyfyngder Seneddol.”

Dydy Mark Drakeford ddim wedi ymateb i’r llythyr, hyd yn hyn.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.