Mae dyn 38 oed wedi’i anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Cil-y-cwm ger Llanymddyfri neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 5).

Cafodd yr heddlu eu galw am 10.35yh ar ôl y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic pedair olwyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.