Mae dynes 77 oed wedi cael anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo gan yrrwr oedd wedi ffoi yn dilyn y digwyddiad.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad ar Heol Pen-bre yn Llanelli am 7.37 nos Wener (Ionawr 4).

Mae’r heddlu’n chwilio am yrrwr cerbyd bach gwyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.