Rhaid gwneud gwelliannau sylweddol i ddeddf Llywodraeth Prydain ar ddyfodol ffermio wedi Brexit, yn ôl un o Bwyllgorau’r Cynulliad.

Ers dros 40 mlynedd, mae amaethyddiaeth yng Nghymru wedi’i ariannu drwy gyllid yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd ffermwyr Cymru yn colli’r arian yma ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd felly mae angen eglurder ynghylch cymorth ariannol yn y cyfnod wedi Brexit, meddai  Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad.

Bydd Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth Prydain yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno systemau cymorth ariannol newydd ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit.

Ond mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad wedi beirniadu’r Bil, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu ei Fil ei hun.

Bydd pwerau penodol tros amaethyddiaeth yn cael eu hildio gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit, ac yn dod dan Fil Amaethyddiaeth Prydain.

Mae’r pwerau hyn yn cynnwys y gallu i ddileu taliadau uniongyrchol i ffermwyr fesul cam a chyflwyno cynlluniau cymorth ariannol newydd.

Nid yw Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth Prydain yn cynnwys rôl i’r Cynulliad, ac mae ofnau y bydd eu gallu i graffu ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth yn gyfyngedig ar adeg ansicr wedi Brexit.

Yn ôl y Pwyllgor, yr ateb i hyn yw drwy greu Bil Amaeth yn y Cynulliad.

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ffafrio hyn hefyd er mwyn galluogi gwaith craffu llawn gan y Cynulliad ar weithredoedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.

“Amheuon cryf”

Dywedodd Mike Hedges, AC Llafur a Chadeirydd y Pwyllgor bod Brexit yn gyfle i Lywodraeth Cymru “ailystyried” y ffordd mae amaethyddiaeth yn cael ei gefnogi yng Nghymru

“Mae consensws y dylai ffermwyr Cymru barhau i gael cymorth ariannol dan y cynlluniau PAC presennol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit.

“Er ein bod yn cefnogi cynnwys darpariaethau ym Mil y DU i ganiatáu ar gyfer hyn, mae gennym amheuon cryf ynghylch darpariaethau eraill yn y Bil a fydd yn cyflwyno newidiadau sylfaenol a pharhaol i bolisi amaethyddol yng Nghymru.

“Y ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar bwnc mor arwyddocaol â dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru yn y tymor hir yw drwy Fil Cynulliad.”