Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dynes mewn tŷ ger Y Bala.

Fe gafodd plismyn eu galw i’r cyfeiriad yn Llanfor am 5.30yb heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 1) ac maen nhw wedi cadarnhau iddyn nhw ddod o hyd i ddynes y tu mewn.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y bu’r ddynes farw, ac mae’r tŷ wedi’i gau i ffwrdd gan swyddogion wrth i waith fforensig fynd rhagddo.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod ymchwiliad ar y gweill, a bod dyn ifanc yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u ymholiadau.