Mar Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i ochrau Tregaron nos Calan yn dilyn adroddiadau fod rêf yn cael ei hynnal yno.

Fe atebodd swyddogion i alwadau tua 11.00yh nos Lun, Rhagfyr 31, yn honni fod nifer fawr o bobol wedi ymgasglu yn Cwm Berwyn ar gyrion y pentref.

Fe gafodd y cyfarfod anffurfiol ei ddirwyn i ben heb i neb gael ei arestio.

Fe arhosodd plismyn yn y cae drwy’r nos, lle’r oedd coelcerthi wedi’i chynnau.

“Fe fydd swyddohion yn aros y .yr ardal heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 1), er mwyn tawelu meddyliau pobol yr ardal,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.