Mae Heddlu’r Gogledd yn gofyn i’r cyhoedd a pherchnogion clybiau a thafarndai am eu cydweithrediad cyn dathliadau Nos Galan.

Cafodd syniad ‘Amser mynd adref’ #amsermyndadref ei lansio yn y Rhyl dros yr haf a’r bwriad yw rhoi terfyn ar drais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Mae’n ategu’r safiad na fydd pobl feddw yn cael prynu diodydd mewn tafarndai a chlybiau drwy’r sir.

Ar y dydd Gwener cyn Dydd Nadolig cafwyd nifer o arestiadau am anrhefn oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn arbennig yng ngogledd sir Ddinbych, gyda nifer o swyddogion yn cael eu hanafu a dau dafarn yn gorfod cau eu drysau’n fuan.

Mae swyddogion yn datgan yn glir na fyddan nhw’n goddef ailadroddiad o’r math yma o ymddwyn a gall pobl ddisgwyl gweld ymateb cadarn i unrhyw broblem tebyg fydd yn codi.

Meddai Prif Arolygydd Sir Ddinbych, Andrew Williams: “Y rheswm am ein ymateb yw i feithrin amgylchedd lle mae trigolion ac ymwelwyr yn gallu mwynhau eu hunain heb ofni bod yn ddioddefwyr trais neu droseddau treisgar, neu fod yn dystion i hyn. Dyma beth mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau ac nid wyf yn credu ei fod yn ormod i ofyn.”

“Nid rhwystro pobl rhag mwynhau eu hunain yw’r bwriad; i’r gwrthwyneb. Nid wyf eisiau unrhyw un cael eu hanafu, boed hynny yn ystod y noson neu wedyn yn y cartref oherwydd yn llawer rhy aml dyma sy’n digwydd pan fo alcohol yn cael ei yfed yn ormodol.”

“Yn y Rhyl yn arbennig mae yna deimlad byw o optimistiaeth yn datblygu sy’n afieithus ac yn ymledu. Nid ydym am adael i hyn gael ei chwalu gan rai sy’n meddwl eu bod nhw yn gallu tanseilio hyn drwy ymddwyn yn wrthgymdeithasol.”

“Mae’n erbyn y gyfraith i staff tafarndai werthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi yn barod. Does yna ddim dadl am hyn, mae’n hawdd iawn yn y bôn, felly ni ddylai pobl ddisgwyl gael prynu alcohol os ydynt wedi yfed yn ormodol yn barod. Gobeithio fydd pobl yn cymryd sylw o hyn ac yn mwynhau dechrau gwych i 2019.”