Leanne Wood AC
Dywed Aelod Cynulliad nad oes digon o gyflogwyr yng Nghymru yn cael eu herlyn am osgoi talu’r isafswm cyflog cenedlaethol.

Mae Leanne Wood AC Canolbarth De Cymru wedi galw ar Gyllid a Thollau i erlyn mwy o gwmniau.

Mae ffigurau sydd wedi dod i ddwylo AC Plaid Cymru yn dangos bod mwy na 1,000 o gyflogwyr yng Nghymru yn osgoi talu’r isafswm cyflog cenedlaethol ers 2002.

Ond dywedodd Leanne Wood nad oes digon o’r cwmniau hynny sy’n torri’r gyfraith yn cael eu herlyn.

Yn dilyn ymgyrch diweddar yn Abertawe lle roedd Cyllid a Thollau wedi targedu 25 asiantaeth gyflogaeth, dywedodd Leanne Wood y dylai rhagor o ymgyrchoedd fel hyn gael eu cynnal. Ychwanegodd y dylai camau cyfreithiol gael eu cymryd yn erbyn y cwmniau hynny.

Mae swyddogion Cyllid a Thollau wedi cadarnhau eu bod yn gwneud ymholiadau pellach i ddwy asiantaeth sy’n cael eu hamau o beidio â thalu’r isafswm cyflog.

Cafodd yr isafswm cyflog cenedlaethol ei gyflwyno yn 1999. Mae’r cyflog erbyn hyn yn £5.93 yr awr i bobl dros 21 oed,  £4.92 i rai rhwng 18 a 20 oed, a £3.64 i bobl rhwng 16 a 17 oed.