Buasai 95% o weithwyr iechyd a fynychodd gynhadledd feddygol yng Nghaerdydd yn argymell cig coch fel rhan o ddeiet iach a chytbwys.

Dyna ganlyniad arolwg gan Hybu Cig Cymru (HCC) yng nghynhadledd “Nursing in Practice” yng Nghaerdydd pan gofnodwyd gwybodaeth ac agwedd y bobl oedd yn bresennol tuag at gig coch a’i gynnwys mewn deiet fel rhan o ymgyrch ehangach i hyrwyddo gwerth maethol cig coch.

Mae cynhadledd “Nursing in Practice” yn ddigwyddiad blynyddol ar gyfer nyrsus gofal cynradd a gweithwyr iechyd, yn cynnwys nyrsus meddygon teulu, ymwelwyr iechyd a nyrsus cymunedol.

Yn ogystal â bod yn ffynhonnell bwysig o brotin, dangosodd yr arolwg bod nyrsys hefyd yn ymwybodol o’r ffaith fod cig coch Cymru’n cynnwys amrywiaeth o faetholynnau pwysig eraill fel haearn, sinc, asidau amino, fitamin D a fitamin B12 sydd ar gael mewn cynnyrch anifeiliaid yn unig. Mae diffyg Fitamin B12 yn y deiet yn gallu arwain at flinder llethol, llai o egni a gwendid yn y cyhyrau.

I rannu gwybodaeth am faeth a deiet dynol, bu dros 100 o bobl yn y digwyddiad yn rhan o seminar pryfoclyd gan y deietegydd cydnabyddedig ac Aelod o’r Panel Cynghori Cig, Dr. Carrie Ruxton dan y teitl ‘Red Meat: Friend or Foe?’, a heriodd rhai o’r camsyniadau am gig coch.

Yn ystod ei chyflwyniad, dywedodd Dr Ruxton wrth y gynulleidfa o nyrsys i baratoi eu hunain am “nifer fawr o negeseuon dros y misoedd i ddod a fydd yn awgrymu y dylai pawb fwyta llai o gig neu droi’n figan neu at fwyta deiet llysieuol. Ond yn y DU, bydd y rhan fwyaf o’ch cleifion yn bwyta’r cyfanswm cywir o gig. Does dim angen i ni ofyn iddyn nhw leihau faint maen nhw’n bwyta.”

Meddai Dr Ruxton: “Mae cig coch yn cyfrannu at iechyd y galon; golwg normal; twf a chynnal cyhyrau; imiwnedd; gwrthocsidyddion naturiol; cyhyrau a dannedd cryf; rheoli hormonau; croen, gwallt a gwinedd iach.”

“Mae’n hollol ddiogel ac mae’n gwneud cyfraniad da iawn at iechyd.”

Meddai Swyddog Gweithredol y Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts: “Mae cig coch yn bwysig o fewn deiet iach a chytbwys ac roedden ni’n falch iawn i weld fod y gweithwyr iechyd yn y Gynhadledd yn cytuno gyda’r neges honno.”

“Gall bawb fod yn hyderus fod cig coch Cymru, yn cynnwys Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, yn cynnig cymaint o fanteision i’n hiechyd ac mae wedi’i gynhyrchu mewn dulliau sy’n gofalu am les anifeiliaid a’r amgylchedd.”

Daw’r negeseuon yma yn ystod ymgyrch eang i hyrwyddo cig coch Cymru fel rhan o ddeiet gytbwys gan HCC gyda seren rygbi Cymru, Shane Williams.