Mae dyn wedi ei arestio ar ôl dringo i ben un o dyrau Pont Hafren a hedfan drôn oddi arno.

Cafodd y dyn 20 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwsans cyhoeddus ar ôl iddo ddod lawr o’r twr 47m yn wirfoddol.

Bu’n rhaid i’r heddlu atal traffig ar yr M48 i’r ddau gyfeiriad gan achosi tagfeydd.

Dywedodd Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon eu bod wedi eu galw i’r digwyddiad am 8.10yb.

Mae’r ffordd bellach ar agor.

Dywed llefarydd ar ran Traffig Lloegr eu bod yn “bryderus” wedi’r digwyddiad, a bod camerâu diogelwch wedi “dod o hyd i’r digwyddiad yn gyflym”.

Agorwyd y bont yn wreiddiol yn 1966, gyda’r ail bont – a gafodd ei henwi yn Pont Tywysog Cymru mewn seremoni ar Orffennaf 2 er gwaethaf cryn wrthwynebiad, ei chwblhau yn 1996.

Cafwyd gwared â’r tollau ar y ddwy bont ar Ragfyr 17.