Galw am ddeddf i sicrhau bod pob person ifanc yn rhugl yn y Gymraeg

Diweddarwyd  
Pen ac ysgwydd o Mark Drakefordd

Mark Drakeford

Llun: O gyfri Twitter Mark Drakeford

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Prif Weinidog i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau bod pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg. 

Mae’r Gymdeithas wedi apelio ar Mark Drakeford i ollwng y cynlluniau i wanhau’r ddeddf iaith bresennol fel adduned blwyddyn newydd.

Yn ei faniffesto i fod yn arweinydd y Blaid Lafur, dywedodd Mr Drakeford ei fod am ganolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Osian Rhys: “Doedd dim sôn am gynlluniau dadleuol y llywodraeth flaenorol i gyflwyno deddf iaith newydd wannach a fyddai’n diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn 2017, roedd 85% o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu cael gwared ar y swydd mae Aled Roberts newydd gael ei benodi iddi.  

“Rydyn ni’n falch bod y Prif Weinidog newydd wedi cadarnhau ei ymrwymiad i’r targed o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’n darged uchelgeisiol, ac mae angen newid sylfaenol ar draws holl waith y Llywodraeth er mwyn ei gyrraedd. Mae maes addysg yn gwbl ganolog i’r gwaith yna, ac rydyn ni’n galw ar y Prif Weinidog i wneud adduned blwyddyn newydd i gyflwyno Ddeddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau, dros amser, mai Cymraeg fydd prif gyfrwng addysg i bob disgybl yn y wlad. Mae’r Gweinidog Addysg ei hunan wedi cydnabod bod angen rhoi sylw i ddeddfwriaeth yn sgil adolygiad Aled Roberts – dydy’r mân newidiadau maen nhw’n eu cynllunio ar hyn o bryd ddim yn mynd i gyflawni’r nod.  

“Roedden ni’n falch bod maniffesto Mark Drakeford yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg ac nad oedd sôn am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau’r Ddeddf Iaith. Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn dangos yn glir nad oes cefnogaeth i hynny, ac mae gwasanaethau Cymraeg yn dechrau gwella o dan y Safonau. Mae angen i’r Llywodraeth symud ymlaen nawr i feysydd eraill sydd angen sylw brys, gan ddechrau gydag addysg a dilyn esiampl Catalwnia sydd wedi bod mor llwyddiannus yn adfer y Gatalaneg drwy’r gyfundrefn addysg.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i’n strategaeth Cymraeg 2050, sy’n cynnwys ein targed i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r strategaeth hefyd yn bwriadu cynyddu’r cyfran sy’n defnyddio’r iaith bob dydd o 10% i 20%. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad llawn, gan gynnwys gan y Comisiynydd y Gymraeg newydd, Aled Roberts.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer