Mae Leanne Wood yn galw ar y Swyddfa Gartref i roi cymorth i ffoaduriaid sy’n methu dod i’r lan ym Melita.

Mae 32 o bobol wedi cael eu hachub, ond maen nhw’n dal ar y môr gan fod yr awdurdodau’n gwrthod rhoi mynediad iddyn nhw i’r ynys.

Ymhlith y 32 mae pedair o fenywod, dau o blant a babi.

Mae disgwyl stormydd yn fuan, sy’n golygu nad ydyn nhw’n ddiogel eto.

Mae Leanne Wood yn dweud bod Robin Jenkins, un o’r tîm achub, wedi cysylltu â hi yn gofyn am gymorth.

‘Dyletswydd’

“Mae’n ddyletswydd arnoch chi nawr i wneud popeth o fewn eich grym i helpu Mr Jenkins a’r bobol ddespret ar fwrdd ei long,” meddai yn y llythyr.

“Er lles y rhai sydd ar fwrdd [y llong], rwy’n eich annog i weithredu heb oedi.”