Mae un o gyn-weinidogion y Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhybuddio bod y cwymp yng ngwerth y bunt yn cael effaith “trychinebus” ar gyllid yr Adran.

Yn ôl Guto Bebb, Aelod Seneddol Aberconwy, mae’r cwymp yng ngwerth y bunt wedi costio mwy na £1.7 biliwn i’r lluoedd arfog dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’n rhybuddio hefyd na fydd cytundeb Brexit Theresa May yn gwneud dim i wella’r sefyllfa.

Roedd Guto Bebb yn ymateb i ymchwil a wnaed gan ymgyrch Pleidlais y Bobl, sy’n galw am ail refferendwm ar Brexit.

“Wnaeth neb bleidleisio dros dan-gyllido ein lluoedd arfog, ond dyna’n union sydd wedi digwydd,” meddai.

“Ar adeg o densiwn cynyddol yn fyd-eang, mae’n drychinebus fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gorfod talu biliynau’n fwy am ei hoffer oherwydd Brexit.
“Fydd cytundeb y Prif Weinidog yn gwneud dim i adfer hyder yn y bunt, ac os caiff ei basio, mi fyddwn ni’n gor-dalu am flynyddoedd i ddod.

“Yr unig ffordd allan o’r llanast yma ydi cymryd y penderfyniad allan o ddwylo gwleidyddion yn San Steffan a’i roi’n ôl i’r bobl.”