Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yw ‘Hoff Atyniad Ymwelwyr y Deyrnas Unedig’ yn ôl ymchwil gan gylchgrawn defnyddwyr Which?.

Ym mis Mai 2011, gofynnodd cylchgrawn Which? Travel i dros 3000 aelod o’r cyhoedd am eu barn ar atyniadau ymwelwyr roeddent wedi ymweld â nhw yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Daeth Sain Ffagan i’r brig nid yn unig yn y categori ‘Amgueddfeydd ac Orielau Celf’ ond hefyd fe’i henwyd yn hoff atyniad y Deyrnas Unedig. Sgoriodd 90% o ran boddhad cyffredinol a pha mor debygol oedd yr adolygwyr i argymell ymweliad. Roedd Sain Ffagan yn un o ddim ond pum atyniad i dderbyn y statws Which? Recommended Provider, y lleill oedd Sŵ Colchester a Sŵ Caer, Gerddi Botaneg Brenhinol Caeredin a Chastell Leeds, Swydd Caint.

Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru gyda dros 600,000 o ymwelwyr pob blwyddyn. Mae’r Amgueddfa’n cynnwys dros 40 o adeiladau sydd wedi’u symud o bob cwr o Gymru a’u hail-godi ar diroedd Castell Sain Ffagan; mae’r rhain yn cynnwys melin flawd a melin wlân, gweithdy sadler a gofaint, eglwys ganoloesol, ysgol Fictoraidd a byngalo ‘pre-fab’ alwminiwm o’r 1940au.  Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dywedodd Bethan Lewis, Pennaeth Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru:

“Rydym wrth ein boddau fod y cyhoedd wedi ein dewis ni ar gyfer y wobr hon sy’n cadarnhau ein safle pwysig wrth galon yr arlwy i ymwelwyr ym Mhrydain. Rydym yn ymfalchïo yn ein digwyddiadau amrywiol ac yn safon ein cyfleusterau ac mae’n gydnabyddiaeth o waith caled ein holl staff.”

“Mae’n gyfnod hynod brysur inni yn Sain Ffagan; erbyn diwedd y flwyddyn mi fyddwn wedi cwblhau nifer o atyniadau newydd gan gynnwys Tŷ Masnachwr Tuduraidd, Cytiau Lloi o’r 19eg ganrif a Gweithdy Clocsiwr o’r 20fed ganrif. Rydym hefyd yn gweithio ar gynlluniau manwl i drawsnewid y profiad ymwelwyr a sefydlu Sain Ffagan yn gartref i hanes Cymru.”

Ym mis Mawrth 2010, dyfarnwyd arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri fel bod yr Amgueddfa yn gallu paratoi cynlluniau manwl ar gyfer ei dyfodol. Mae cynllun ‘Creu Hanes’ yn cynnwys ail-gynllunio’r oriel groeso, adeiladu mwy o orielau a gwella cyfleusterau Sain Ffagan. Mae’r Amgueddfa Werin hefyd yn gobeithio ymestyn y llinell amser er mwyn adrodd mwy o straeon ein cenedl.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o wobrau ymwelwyr i’r Amgueddfa eu hennill. Yn 2010, dewisodd defnyddwyr gwefan ryngwladol TripAdvisor, Sain Ffagan yn un o’r 10 safle gorau i ymweld â nhw am ddim yn y DU ac ym mis Gorffennaf eleni, enwodd defnyddwyr netmums.com Sain Ffagan fel y lle gorau i fynd iddo am ddim yn y De Ddwyrain.