Mae un teulu yng Nghaerdydd wedi cael cinio Nadolig annisgwyl a hynny diolch i blismon o Heddlu De Cymru.

Mae’r stori am garedigrwydd un swyddog trafnidiaeth wedi cael sylw mawr ar y cyfryngau cymdeithasol ers iddi gael sylw brynhawn ddoe.

Yn ôl yr heddlu, roedd swyddog wedi codi teulu ar ôl i’w car dorri i lawr ac wedi mynd â nhw adre’. Dyna pryd y sylweddolodd o nad oedd ganddyn nhw ddim yn y tŷ ar gyfer dathlu’r Nadolig.

Fe aeth i siop Tesco Croes Cwrlwys i brynu nwyddau ac, ar ôl clywed am hynny, fe benderfynodd staff y siop ychwanegu rhagor.

Fe gafodd y nwyddau i gyd ei cario i’r tŷ gan swyddogion yr heddlu neithiwr.