Mae Prif Weinidog newydd Cymru wedi galw ar i bawb “wneud eu rhan i uno’r wlad” ac osgoi rhagor o raniadau yn sgil y broses Brexit.

Yn ei neges Nadolig, mae Mark Drakeford yn dweud mai un o nodweddion mawr y flwyddyn ddiwetha’ yw methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau “cytundeb derbyniol” i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae wedi ailadrodd addewid Llywodraeth Cymru i “wneud popeth o fewn ein gallu” i ddiogelu swyddi, i gefnogi’r economi a gwrachod gwasanaethau cyhoeddus.

Does dim , meddai, bod modd datrys yr anghytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Senedd yn San Steffan, gyda llai na diwrnod ar ôl tan y dyddiad swyddogol i adael yr Undeb.

Dyma neges Nadolig gynta’ Mark Drakeford ers iddo ddod yn Brif Weinidog wedi ymddiswyddiad Carwyn Jones.

Ymhlith llwyddiannau’r flwyddyn, mae’n sôn am ddathlu 70 mlwyddiant y Gwasnaeth Iechyd a buddugoliaeth y Cymro Geraint Thomas yn ras seiclo’r Tour de France.