“Rydyn ni’n dweud wrth bobol sydd heb fod o’r blaen i beidio â disgwyl cyfieithiad o rywbeth traddodiadol off the shelf.”

Dyna eiriau Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felin-fach, wrth esbonio beth sy’n gwneud pantomeim enwocaf gorllewin Cymru yn “unigryw”.

Mae eleni’n dynodi hanner can mlynedd ers cychwyn Panto Felin-fach, a dros y blynyddoedd mae wedi cynnig llwyfan i enwogion fel Ifan Gruffydd, Geraint Lloyd a Rhys ap Hywel.

Mae’r cynhyrchiad blynyddol wedi bod yn gyfle i bobol “ddechrau arddel eu crefft,” meddai Rhian Dafydd ymhellach, wrth iddo gael ei greu “o’r newydd” bob blwyddyn.

Ac yn ôl yr arfer eleni, fe ddychwelodd Criw Dyffryn Aeron am gyfnod o wythnos ynghanol y mis (Rhagfyr 8-15) i lwyfannu’r panto diweddaraf, ‘Pan-to-a-to-a-to’.

‘Y cyfoes a’r oesol’

“Mae’n gyfuniad o lot o bethe – straeon lleol a chwedle a’r hyn sy’n digwydd yn y byd,” meddai Rhian Dafydd, gan gyfeirio at bantomeimiau’r gorffennol sydd wedi defnyddio hanesion Twm Siôn Cati, Siôn Cwilt a Nans o’r Glyn yn ganolbwynt iddyn nhw.

“Mae yna neges ynddo hefyd. Ry’ch chi’n chwerthin nes eich bod chi’n dost, ond mae neges yn cael ei gosod ynddo hefyd.

“Mae hynny’n rhan eithaf pwysig o bopeth ry’n ni’n ei wneud yn fan hyn [yn Theatr Felin-fach].

“Mae’n rhywbeth bach i gosi neu ystyried pam ry’n ni yma, a pha mor bwysig yw hi i ni, y Gymraeg a’r Pethe i fod yma.”

“Criw da”

Un sydd wedi bod ynghlwm â Panto Felin-fach ers y blynyddoedd cynnar yw’r ffermwr, Jackie Evans, a ymunodd â’r cast am y tro cyntaf yn 1973.

“Mae’n neis cael gwneud rhywbeth adeiladol yn ystod y gaeaf,” meddai, gan ychwanegu bod y criw sy’n dod ynghyd bob blwyddyn yn “cadw dyn yn ifanc”.

“Ro’n i’n chware gwahanol gymeriade ar y dachre, a dw i ddim yn gwbod shwd y des i’n ddyn drwg.

“Ond mae wedi esblygu a datblygu o fan’ny, a dw i wedi bod yn ddyn drwg ers blynydde nawr.”