Mae Hywel Gwynfryn yn dweud bod ymuno â chast pantomeim wedi bod yn “therapi” iddo yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac yntau newydd golli ei wraig.

Tan ganol mis Rhagfyr, bu’r darlledwr yn teithio ledled Cymru yn rhan o’r sioe ‘Branwen’, a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Mega a’i chyfarwyddo gan yr actor, Huw Garmon.

Roedd Hywel Gwynfryn yn chwarae rhan y cawr, Bendigeidfran, a dywed fod ymuno â chwmni o actorion wedi bod yn brofiad “ffantastig” iddo.

Ond ychwanega na fyddai wedi gwneud hyn oll heb y siars a gafodd gan ei wraig ychydig wythnosau cyn iddi farw yn gynharach eleni.

“Help garw”

“Ro’n i wedi cytuno i wneud rhan Bendigeidfran fisoedd yn ôl, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd fy ngwraig i’n sâl efo canser,” meddai Hywel Gwynfryn wrth golwg360.

“Yn ystod yr wythnosau olaf wedyn, ro’n i’n siarad efo’n gilydd, ac un peth wnaeth hi ddweud wrtha i oedd, ‘dw i’n gwybod dy fod ti’n meddwl peidio gneud y pantomeim, on’d wyt?’ Ac fe ddwedodd hi, ‘paid ti â meiddio dweud wrth DH [Dafydd Hywel] nad wyt ti’n gneud y Panto…

“Roedd hynny’n gymorth mawr i mi oherwydd wedyn mi roeddwn i’n gneud y clownio ar y llwyfan gyda’i bendith hi.

“Bu hynny’n help garw a bu gneud y Panto hefyd yn rhyw fath o therapi. Roedd rhywun yn cael anghofio’r sefyllfa yr oedd o ynddo, ac mae o ynddo.”

“Syniad ramantus”

Ar wahân i “gameo byr” ym Mhanto Felin-fach yn yr 1980au, a sgrifennu sawl sgript pantomeim ar y cyd â Caryl Parry Jones dros y blynyddoedd, dyma’r tro cyntaf i Hywel Gwynfryn fod â rhan sylweddol mewn pantomeim proffesiynol, meddai.

Ychwanega ei fod yn “dychwelyd at ei wreiddiau” wrth gamu i’r llwyfan, gan iddo gael ei hyfforddi’n actor yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ar ddechrau’r 1960au.

“Mae gen i’r syniad ramantus yma o fod efo criw o bobol yn teithio o le i le, yn byw gyda’i gilydd fel teulu, a mynd i’r theatr i newid a pharatoi i actio,” meddai.

“Syniad ramantus fel roedd yn digwydd ers talwm, pan oedd Twm o’r Nant yn mynd â’i wagen o le i le ac yn perfformio’i anterliwtiau.”