Fe fydd dyn 20 oed yn mynd gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw (Dydd Llun, 24 Rhagfyr) ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Fe fu farw Rebecca Louise, 34, mewn gwrthdrawiad ar yr A499 ym Mhenrhos ger Pwllheli nos Wener (21 Rhagfyr).

Mae’r dyn hefyd wedi cael ei gyhuddo o yrru o dan ddylanwad alcohol ac o fethu a stopio ar ôl gwrthdrawiad.

“Dynes arbennig”

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Rebecca Louise o Lanberis a oedd yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd ac oedd newydd ddechrau ei busnes ei hun.

Dywedodd ei theulu ei bod hi’n ferch “hapus a bywiog” gyda “natur ofalgar a chariadus.”

“Roedd ganddi ddyfodol anhygoel o’i blaen cyn iddi gael ei dwyn oddi wrthym ni.

“Fe fyddai Rebecca yn cael ei disgrifio fel dynes arbennig iawn gan bawb oedd yn ei hadnabod ac fe fydd yn gadael bwlch mawr ar ei hol.”