Mae arian wedi cael ei roi gan Lywodraeth Prydain i wasanaethau achub ledled Cymru fel rhan o brosiect gwerth £1m bob blwyddyn am bum mlynedd.

Fe fydd yr arian yn galluogi’r gwasanaethau i brynu offer sy’n angenrheidiol er mwyn achub bywydau.

Mae 57 o wasanaethau wedi’u gwobrwyo drwy holl wledydd Prydain, a phedwar ohonyn nhw yng Nghymru – Ambiwlans Sant Ioan Glannau Fferi, Gwasanaeth Achub Llwchwr, Gwasanaeth Achub Mynydd y Gogledd a Chlwb Achub Bywyd Rest Bay Porthcawl.

Bydd y pedwar gwasanaeth yn derbyn £110,201 rhyngddyn nhw.

‘Arwyr tawel’

“Ein timau cychod achub yw arwyr tawel dyfroedd y DU,” meddai Nusrat Ghani, Gweinidog Morwrol San Steffan.

“Mae eu hymrwymiad a’u sgiliau’n cadw pobol yn ddiogel ar ein hafonydd, llynnoedd ac ar dir.

“Mae bywydau wedi cael eu hachub o ganlyniad i’r cynllun hwn a bydd ein harian ychwanegol yn sicrhau bod y gwirfoddolwyr ac elusennau sy’n gweithio’n ddiflino yn gallu prynu’r cerbydau, yr offer ac adnoddau eraill sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol bob awr o’r dydd.”