Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff mewn maes parcio yn Abertawe.
Cawson nhw eu galw i ardal y marina toc ar ôl 10yb fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 23).
Dydyn nhw ddim yn trin marwolaeth y person fel un amheus, a does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.
Mae’r crwner wedi cael gwybod.