Mae’r actor Michael Sheen, un o frodorion enwocaf Port Talbot, yn talu i warchod murlun ‘Banksy’ sydd wedi ymddangos yn y dref dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae ffens wedi’i chodi i warchod y murlun gan yr arlunydd stryd enwog, wrth i filoedd o bobol heidio i’r dref i’w weld.

Dywedodd ‘Banksy’ ar ei gyfrif Instagram mai fe oedd yn gyfrifol am y murlun – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Mae’n darlunio plentyn yn chwarae mewn lludw a mwg yn y dref ddiwydiannol.

Mae Michael Sheen hefyd yn talu am gyngor cyfreithiol i’r trigolion wrth iddyn nhw gyfrannu at yr ymdrechion i warchod y murlun.

Dywed Ian Lewis, perchennog y garej lle mae’r murlun wedi ymddangos, nad yw e wedi cysgu drwy’r wythnos gan ei fod yn gofidio am ddiogelwch, a’i fod yn talu am swyddogion i warchod y safle.

‘O hwyl i straen’

Yn ôl Ian Lewis, mae’r helynt wedi mynd o fod yn dipyn o hwyl i achosi straen iddo.

“Mae hynny o ganlyniad i ddiffyg cwsg ond mae cael y diogelwch yno wedi tynnu tipyn o bwysau oddi arna’i. Byddan nhw’n aros yno’n ddi-ben-draw nawr, dw i’n meddwl,” meddai.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot y byddai dau swyddog diogelwch ar y safle i helpu i gyfeirio traffig sy’n mynd i weld y murlun.

Camau dros dro dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd fyddai hyn, meddai’r cyngor.

“Rydym yn deall y cyffro ond rydym hefyd am atgoffa ymwelwyr mai ardal breswyl yw hon, a gofynnwn i bobol sy’n dod i dynnu llun neu weld y ‘Banksy’ yn gwneud eu gorau i beidio â tharfu ar y rhai sy’n byw gerllaw,” meddai’r cyngor mewn datganiad.