Carwyn Jones yn y Cynulliad
Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod beirniadaeth am ddiffyg targedau ac addewidion pendant yn ei raglen lywodraethu.

Yn ôl Carwyn Jones, fe fydd ffigurau manwl yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai er mwyn i bobol Cymru allu barnu a yw’r Llywodraeth yn llwyddo.

Ac, mewn cyfweliad ar Radio Wales, fe bwysleisiodd mai tymor pum mlynedd oedd gan y Llywodraeth Lafur ac mai ar ddiwedd hynny y dylen nhw gael eu barnu.

Roedd arweinwyr y gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi condemnio Carwyn Jones ar ôl iddo gyhoeddi ei raglen lywodraethu ddoe.

‘Niwlog a di-uchelgais’

Roedd y ddogfen yn “niwlog a di-uchelgais”, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, er enghraifft – heb ffigurau manwl, meddai, doedd y rhaglen “ddim werth y papur” yr oedd arni.

Ond, yn ôl Carwyn Jones heddiw, fe fydd adroddiadau blynyddol yn caniatáu i bobol farnu a yw polisïau’r Llywodraeth yn llwyddo.

“Fe fydd modd i bobol gymharu tebyg a thebyg, flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai. “Fe fydd y ffigurau llawn ar gael.”