Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes gael ei lladd mewn gwrthdrawiad.

Fe ddigwyddodd ar yr A499 rhwng Abersoch a Phwllheli atua 7 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 21).

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle, ac fe wnaeth gyrrwr car Ford Focus glas ffoi.

Cafodd dyn 20 oed ei arestio’n ddiweddarach ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac o fethu â chwlbhau prawf anadl.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.