Mae wardeiniaid traffig wedi cael eu trosglwyddo i reoli torfeydd sy’n dal i heidio i safle murlun Banksy mewn stryd gefn yn Taibach, Porth Talbot.

Ymddangosodd gwaith celf yr arlunydd enwog ar ochr garej fore Mawrth, ac mae ei boblogrwydd wedi arwain at bryderon ymhlith trigolion am draffig ychwanegol.

Dywed Cyngor Castell-Nedd Port Talbot y bydd yn anfon dau aelod o’i staff i safle’r murlun er mwyn helpu rheoli’r nifer mawr o gerbydau sy’n parcio ac yn llenwi’r stryd gefn.

Meddai llefarydd ar ran y Cyngor:

“Mesur dros dro yw hwn dros gyfnod gwyliau’r Nadolig oherwydd credwn y bydd yr ardal hon o Port Talbot yn denu nifer mawr o ymwelwyr.

“Er yn deall y cyffro, rydym yn atgoffa ymwelwyr mai ardal breswyl yw hon, ac yn gofyn i bobl sy’n dod i weld murlun Banksy i wneud eu gorau i beidio â tharfu’r rhai sy’n byw gerllaw.

“Rydym yn gofyn i fodurwyr hefyd i beidio â pharcio yn y ffordd gul lle mae’r gwaith celf ond i barcio yn rhywle arall a cherdded yno.”

Helpu denu oriel?

Mae’r Cyngor yn awyddus hefyd i fanteisio ar waith Banksy i gryfhau ei gais i ddenu Oriel Genedlaethol Celf Fodern Cymru i’r sir.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer oriel genedlaethol newydd bosibl a fyddai’n canolbwyntio ar gelf yr 20fed a’r 21fed ganrif yng Nghymru.

“Mae o leiaf un artist cyfoes o’r radd flaenaf fel petai’n gweld y gymysgedd ddiddorol o lethrau heddychlon ochr yn ochr â thirweddau trefol a diwydiannol fel gwaith celf ynddo’i hun,” meddai arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Jones.

“Dw i’n gobeithio y bydd cyffro’r gwaith celf hwn wedi rhoi Port Talbot a Taibach yn llygad y byd, ac y bydd yn rhoi mantais inni wrth ddenu oriel gelf fodern genedlaethol yma.”

Dyma waith cyntaf Banksy yng Nghymru a’r gred yw ei fod yn ymateb i dreftadaeth ddiwydiannol y dref a’r llygredd sy’n gysylltiedig â’i gwaith dur enwog.

Fe wnaeth Cyngor Castell-Nedd Port Talbot godi ffens fetel o’i amgylch ddydd Mercher, ac mae wedi bod yn ymgynghori gyda chynghorau eraill sydd â phrofiad o ymdrin â gweithiau celf Banksy.