Gary Davies, Cymro Cymraeg o Sir Gâr,  yw Cadeirydd newydd bwrdd ymddiriedolwyr yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne.

Mae’n cymryd yr awenau gan Rob Jolliffe, a ymddiswyddodd ym mis Mehefin ar ôl deng mlynedd wrth y llyw.

“Mae ‘Gardd Cymru’ yn atyniad godidog gyda’i thŷ gwydr mawr trawiadol a’i chanolfan ragoriaeth ar gyfer casgliadau o blanhigion prin a hardd o bob cwr o’r byd,” meddai Gary Davies. “Mae’n allweddol ym maes economi ymwelwyr, gwyddonol a botanegol cynyddol bwysig Cymru.

‘’Fy ngwaith i nawr yw parhau i ddatblygu ac adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud yma, a sicrhau bod y sefydliad yn goresgyn yr heriau strategol sydd i ddod.”

Mae Gary Davies wedi treulio dros 35 mlynedd yn gweithio yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Fe fu’n brif swyddog gyda Phartneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru am bron i 15 mlynedd, ac yna rôl Prif Weithredwr dros dro yr Ardd am gyfnod yn 2016.