Mae pôl piniwn newydd yn darogan y gallai Plaid Diddymu’r Cynulliad ennill dwy sedd ym Mae Caerdydd yn yr etholiad nesaf.

Mae’r ymchwil gan Sky Data, ar sail 1,014 o ymatebion, yn rhoi sylw i arferion pleidleisio’r cyhoedd yn San Steffan ac yn y Cynulliad.

O safbwynt y Cynulliad, mae’r canlyniadau wedi’u rhannu rhwng seddi etholaeth a rhanbarthol.

Etholaethau

Mae Sky Data a YouGov ill dau yn rhoi Llafur ar y blaen, gyda’r naill yn darogan 42% o bleidleisiau, a’r llall yn disgwyl 40%.

Mae’r ddau yn rhoi’r Ceidwadwyr yn ail (26% a 25%), a Phlaid Cymru’n drydydd (22% a 20%).

Mae hynny’n arwydd o ychydig iawn o newid yn y sefyllfa bresennol.

Rhanbarthau

Ond mae rhywfaint o amrywiaeth o graffu ar y ffigurau ar gyfer y rhanbarthau.

Tra bod Sky Data yn disgwyl i Lafur ennill 39% o’r bleidlais, dim ond 36% y mae YouGov yn ei ddarogan.

Mae Sky Data yn rhoi 23% o’r bleidlais i’r Ceidwadwyr, ond mae’r YouGov yn rhoi 1% ychwanegol iddyn nhw.

22% yw ffigwr Sky Data ar gyfer Plaid Cymru, o’i gymharu ag 20% gan YouGov.

Ac o safbwynt Plaid Diddymu’r Cynulliad, mae Sky Data yn rhoi 7% o’r bleidlais iddyn nhw, tra mai 5% yn unig maen nhw’n ei gael gan YouGov, gyda’r canlyniadau’n awgrymu y gallen nhw ennill dwy sedd.

Roedd Baromedr Gwleidyddol Cymru yn dangos yn ddiweddar fod y blaid hon o flaen UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol am y tro cyntaf erioed. Mae Sky Data yn eu gosod yn bedwerydd ar y rhestr ranbarthol.