Mae aelod Cymraeg o Dy’r Arglwyddi yn dweud fod tudalen flaen papur y Daily Mail yn dweud celwydd amdano ef a’i gyd-aelodau sy’n ymgyrchu yn erbyn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Democrat Rhyddfrydol, Roger Roberts, yn cael ei enwi yn un o dri sydd wedi bod llafar yn erbyn polisïau llywodraeth Prydain ar Brexit.

Ond heddiw, mae’r Arglwydd Ro erts o Landudno yn dweud fod y stori am yr Arglwyddi’n “ceisio tynnu Brexit oddi ar y cledrau” yn mynd yn rhy bell.

Mae’r darn dalen flaen yn cyfeirio at yr Arglwyddi fel “cosy cabal of Remain”, ar ôl iddyn nhw bleidleisio o blaid rhoi’r grym i’r Senedd i orfodi gweinidogion i ailddechrau’r trafodaethau os yw aelodau seneddol yn gwrthod cymeradwyo cynlluniau Brexit Theresa May.

Ac mae’r Arglwydd Roberts wedi’i gyhuddo o gymharu Prif Weinidog Prydain ag Adolf Hitler.

“Fedrwch chi ddim coelio be’ maen nhw’n ddeud,” meddai’r Arglwydd Roberts wrth golwg360.

“Dydw i erioed wedi bod yn aelod o unrhyw elite. Wnes i erioed gymharu Mrs May efo Hitler. ‘In cahoots’ efo Brwsel? Nac ydw.”

‘Un o nodweddion hynod 2018’

A’i dafod yn ei foch, mae’r Arglwydd Roberts yn dweud mai “un o nodweddion hynod 2018” oedd ei gael ei hun ar dudalen flaen y Daily Mail.

“Do’n i erioed wedi dymuno i hynny ddigwydd, ond mi achosodd gryn helynt yr ochr yma. Ond maen nhw’n hollol anghywir,” meddai.

“Ni ydi’r bobol sy’n brwydro i aros yn Ewrop. Rydan ni’n brwydro am hynny ac mi fyddwn ni’n parhau i frwydro.”

Mae’n debygol y bydd y bleidlais nesaf yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ystod wythnos gyntaf neu ail wythnos y flwyddyn newydd.

“Bydd hynny wirioneddol yn gyfle i Dŷ’r Arglwyddi fod ‘in cahoots’ efo Brwsel oherwydd rydan ni’n credu bod ein cryfder ni yn Ewrop.

“Ffolineb llwyr ydi gosod ein hunain y tu allan i Ewrop.”