Galw ar gynghorwyr Ceredigion i achub Ysgol Trewen

 

Ymgyrchwyr tros Ysgol Trewen

Mae rheini plant Ysgol Trewen yn galw ar gynghorwyr Ceredigion i achub yr ysgol yn dilyn cyfarfod cabinet yn Aberaeron ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 17).

Yn ôl Liz Howell, sydd yn rhiant i ddisgybl yn yr ysgol, dydi’r Cyngor Sir ddim wedi ystyried pwyntiau’r ymgyrchwyr sy’n cynnig datrys problem tair ysgol fechan o fewn yr un ardal.

Mae nifer y plant yn yr ysgol wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwrthaf – o 60 disgybl oedd yno dair blynedd yn ôl, i’r saith sydd yno erbyn hyn.

Ond mae Liz Howell o’r farn mai symptom uniongyrchol o’r bygythiad i gau’r ysgol yw hyn.

Tair ysgol, un etholaeth

Mae cynghorydd Beulah, Lyndon Lloyd, yn dweud ei fod yn ffafrio achub Ysgol Trewen.

Mae ymgynghoriad o’r cymunedau lleol wedi ei gynnal eisoes gan y pwyllgor addysg – a dyna oedd yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod cabinet ddydd Mawrth.

“Mae tair ysgol yn yr etholaeth yma – sef Ysgol Trewen, Ysgol Beulah, ac Ysgol Cenarth, ac mae’n ymddangos mai dewis pa un yw’r mwyaf addas yw’r amcan,” meddai.

“Penderfynodd y pwyllgor addysg ei fod yn argymell i’r cabinet i achub Ysgol Trewen, ond gawn ni weld…

“Yn anffodus iawn, dim ond saith disgybl sydd yn Ysgol Trewen chi’n gweld, ac mae gyda chi fynydd o ymgais i geisio ei chadw hi.

“Mae Ysgol Beulah i fyny’r hewl yn gant oed, a dim ond dwy ystafell sydd ynddi. Ond yn Ysgol Trewen mae ganddoch chigyfleusterau gwell – mae neuadd a chegin a pedair ystafell…”

Mater i Gyngor Sir Ceredigion

Pan ddaw mis Mawrth, yn ôl Lyndon Lloyd, mater i Gyngor Sir Ceredigion fydd dewis pa ysgol allan o’r tair fydd yn cau ar ôl cyfarfod cabinet newydd.

“Dydw i ddim yn gweld y Cyngor Sir yn awyddus i gadw dwy o’r tair ysgol ar agor,” meddai.

“Ein dymuniad ni fel llywodraethwyr Ysgol Beulah a Chyngor Cymuned Beulah byddai achub ysgol Trewen.”

Addysg

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019