Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi addasu ei gais i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol yn dilyn pryderon gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Wrth i gylchgeawn Golwg fynd i’r wasg ddoe (dydd Mawrth), roedd y Llyfrgell yn paratoi at gael cyfarfod arall gyda swyddogion y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i drafod y cynllun, a fyddai’n rhoi cartref i 160,000 o raglenni BBC Cymru, wedi i’r Gweinidog ddweud mewn llythyr at y sefydliad nad oedd yn barod i ymrwymo i roi £1 miliwn o’r pwrs cyhoeddus tuag at gostau creu’r archif.

Yn ei lythyr, dywed y Gweinidog bod yn rhaid cymryd camau i sicrhau “nad yw’r Archif Ddarlledu Genedlaethol yn peryglu sefydlogrwydd ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn y dyfodol”.

“Rydan ni wedi bod yn edrych yn ofalus iawn yr wythnos ddiwethaf er mwyn ceisio adnabod beth yn union oedd pryderon y Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas,” meddai Pedr ap Llwyd, y Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus, a fydd yn olynu Linda Tomos yn swydd y Llyfrgellydd Cenedlaethol ym mis Ebrill 2019.

“Rydan ni wedi mynd i’r afael â’r pryderon hynny dw i’n gobeithio, i’r fath raddau hwyrach y medrwn ni argyhoeddi swyddogion Dafydd eu bod hi’n gwbwl ddiogel erbyn hyn i ni fwrw ymlaen â’r cynllun.

“Rydan ni wedi edrych ar y pryderon hynny ac wedi addasu y cais, ac wedi derbyn awgrymiadau y Llywodraeth ynghylch sut i wneud rhai pethau’n wahanol mae’n bosib.”

Newid

“Mae’r newid yn drafodaeth yr ydyn ni’n mynd i gael efo’r Llywodraeth fory,” meddai Pedr ap Llwyd wedyn.

“I fod yn gwbwl gwbwl deg â’r Gweinidog, mae Dafydd (Elis-Thomas) wedi cefnogi’r bwriad i sefydlu’r Archif Ddarlledu Genedlaethol o’r cychwyn cyntaf. “Rhai o’r pethau oedd yn ei bryderu fo oedd yr effaith negyddol mae’n bosib fyddai sefydlu’r Archif yn ei gael ar ein gwasanaethau craidd ni.

“Wrth gwrs, mae derbyn yr archif hynod bwysig yma i’r Llyfrgell Genedlaethol yn sicr yn rhan o werthoedd craidd y Llyfrgell. Gwerthoedd craidd y Llyfrgell ydi casglu a diogelu a rhoi mynediad i’r casgliadau cenedlaethol. D

‘Dyna’n union fydd derbyn yr archif bwysig yma yn ei wneud.”

Cynllun

Mae’r cynllun, yn ôl y darpar Lyfrgellydd Cenedlaethol, hefyd yn rhan o “nod a gobaith” y Llyfrgell i “gryfhau ei bresenoldeb mewn llefydd eraill”.

“Pe bydden ni’n cael caniatad i weithredu’r cynllun yna,” meddai Pedr ap Llwyd, “yna mi fyddan ni yn gweld presenoldeb gan y Llyfrgell Genedlaethol wedyn mewn mannau fel Wrecsam a Chaerfyrddin.

Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru, sy’n bell o gyrraedd llawer iawn o bobol sydd heb y gallu i deithio i Aberystwyth, felly byddai hwnna’n gyfle i ni fynd a neges ac adnoddau a chsagliadau a gwasanaeth y Llyfrgell at y bobol yn hyytrach na disgwyl iddyn nhw ddod aton ni.”

Bydd cyfweliad llawn gyda’r darpar Lyfrgellydd yn rhifyn cyntaf Golwg 2019 ar Ionawr 10.