Highmead Dairies Llun: Gwefan Highmead Dairies
Wedi dros hanner canrif o ddosbarthu cynnyrch llaeth, bydd un o gwmniau llaeth teuluol mwyaf y gorllewin yn dod i ben ddiwedd yr wythnos hon.

Dydd Gwener fydd y diwrnod olaf o botelu llaeth ar safle Highmead Diaries yn Llanybydder, yn ôl y perchennog Tim Davies, cyn i’r cwmni gael ei drosglwyddo i ddwylo’r prynwyr newydd.

Cwmni o Swydd Gaerloyw, Cotteswold Dairies, sydd wedi prynu’r llaethdy deuluol, ac fe fydd y safle yn cael ei ddefnyddio fel man dosbarthu o hyn ymlaen, gyda’r llaeth yn cael ei botelu mewn ffatri yn Tewkesbury.

Sefyldlwyd Highmead Dairies yn 1957  gan dad Tim Davies – William Davies.

“Dechreuodd y busnes gyda ’nhad yn mynd rownd â’r llaeth o’r ffarm yn ei gart, a phobol yn dod mas i gwrdd ag e â’u jygiau i hôl y llaeth,” meddai Tim Davies wrth Golwg 360.

Ers hynny, mae’r busnes wedi tyfu cryn dipyn, gyda’r cwmni erbyn hyn yn cyflogi 11 o weithwyr ar y safle yn Llanybydder, ac yn derbyn bron i 10,000 litr o laeth bob dydd.

Bydd pedwar gyrrwr o blith yr 11 gweithiwr yn parhau i weithio i’r cwmni newydd yn dosbarthu llaeth, ac fe fydd Tim Davies hefyd yn gweithio gyda’r cwmni newydd ar y safle am gyfnod.

Y farchnad yn newid

Yn ôl Tim Davies, roedd gwerthu’r cwmni teuluol yn ormod o gyfle i’w golli erbyn hyn.

“Does dim llawer o gwmnie fel hyn i gael ar ôl yng Nghymru erbyn hyn i fod yn onest,” meddai. “Ma’ arferion pobol yn newid, ac ma’r archfarchnadoedd yn denu lot o gwsmeried.

“Mae’n galed mas ’na i fusnese nawr.”

Fe ddaeth y cynnig i werthu ar yr amser iawn, yn ôl Tim Davies, oedd eisoes yn gyfarwydd â’r cwmni teuluol o Swydd Gaerloyw sydd wedi ei sefydlu ers 1938, ac yn cyflogi tua 300 o weithwyr.

“Fe alwon nhw mewn un diwrnod, a dweud eu bod nhw yn edrych ar ehangu i mewn i Gymru,” meddai. Mae gan y cwmni eisoes gwsmeriaid yn ardal Llanelli ac ym Mae Colwyn.

Bydd Cotteswold Dairies yn cychwyn ar safle’r hen Highmead Dairies yn Llanybydder ddydd Llun nesaf.