Mae signal ffôn a’r rhyngrwyd yn parhau i fod yn “annibynadwy” yn hanner ardaloedd gwledig gwledydd Prydain, er i welliannau gael eu gwneud er mwyn ei gryfhau.

Yn ôl adroddiad blynyddol Ofcom, dim ond 41% o ardaloedd gwledig sy’n cael mynediad i ddata o ansawdd uchel – sy’n cael ei ddiffinio fel unrhyw beth sydd uwch ben cyflymder 2mbit/s.

Mae’r adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod 39,000 o adeiladau yn methu â derbyn cysylltiad gweddus i’r rhyngrwyd – ac ardaloedd gwledig Cymru a’r Alban sydd yn cael eu heffeithio fwyaf.

Mewn ardaloedd dinesig, mae galwadau ffôn dibynadwy ar gael i 97% o bobol, ac mae gan 83% fynediad i signal 4G. Mae Ofcom yn cynllunio i ryddhau mwy o donfeddi arwyr er mwyn mynd i afael ar y broblem yn y wlad erbyn diwedd 2019 a dechrau 2020.

“Lleihau’r rhaniad digidol”

“Rydyn ni’n benodol yn poeni am signal ffon mewn ardaloedd gwledig,” meddai cyfarwyddwr grŵp sbectrwm Ofcom, Philip Marnick.

“Wrth i ni ryddhau mwy o donfeddi awyr ar gyfer ffonau, rydym yn edrych i gyflwyno rheolau sydd yn ymestyn signal ffon o ansawdd uwch ble mae ei angen.

“Byddai hynny yn sicrhau bod cymunedau gwledig yn cael yr un math o signal sydd ar gael i bobol mewn dinasoedd a threfi – gan leihau’r rhaniad digidol.”