Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio pobol yn nhref Prestatyn i fod yn wyliadwrus yn sgil adroddiadau o ddeg digwyddiad lle mae goleuadau Nadolig wedi cael eu difrodi neu eu dwyn.

Bu’r achosion i gyd yr wythnos ddiwethaf (Rhagfyr 13 a 14) yn ardaloedd Ffordd Isa, Cantebury Drive, Ffordd Pennant, Maes Tegid, Bryneithin Avenue a Central Avenue yn y dref.

Dywed yr heddlu y dylai trigolion sy’n sylwi ar unrhyw ymddygiad amheus i gysylltu â nhw ar unwaith.