Mae’r actor y tu ôl i sioe sgetsus ar y we sydd wedi corddi siaradwyr Cymraeg yn ddiweddar, yn dweud nad oedd hi’n fwriad ganddo i greu helynt na chorddi neb.

Mewn cyfweliad gyda golwg360, mae Sean Rhys-James yn cyfaddef ei fod yn gwybod ym mêr ei esgyrn nad ydi popeth y mae’n ei ddweud am yr iaith Gymraeg ar The Great Big Welsh Sketch Show yn hanesyddol gywir.

Dim ond trio bod yn ddoniol y mae, meddai wedyn, nid creu ymateb.

“Doeddwn i ddim wedi bwriadu creu’r sgets yn un hanesyddol gywir,” meddai am y darn sydd wedi ennyn ymateb chwyrn gan siaradwyr Cymraeg am ei bod yn awgrymu mai geiriau wedi’u benthyg o’r Saesneg ydi pob gair Cymraeg, wrth i bwysigion eistedd i lawr flynyddoedd lawer yn ôl er mwyn ‘creu’ yr iaith sydd, mewn gwirionedd, yn hŷn na’r Saesneg. 

“Rwy’n ymwybodol fod y Gymraeg yn iaith hynafol, llawer  hŷn ‘na’r Saesneg,” meddai Sean Rhys-James wedyn. “Doeddwn i ddim yn wedi mynd ati i ysgrifennu hon er mwyn corddi unrhyw un.

“Prydferthwch y sgets, yn fy marn i, yw ei bod yn gallu gweithio ddwy ffordd – hynny yw, yn Gymraeg a Saesneg – a doedd dim bwriad gen i i’w gwneud yn ffeithiol gywir.

“Rwy’n ymwybodol nad yw’r geiriau yn dod o’r iaith Saesneg a dyna i mi oedd yw’r hiwmor ynddo – sef gwybod nad oedd y cynnwys yn ffeithiol gywir.

“Dydw i ddim yn meddwl fod hynny ynddo’i hun yn ddoniol, ond pan o’n i’n creu’r sgets, roedd hi’n fwy i’w wneud gyda’r berthynas rhwng y cymeriadau.

“O’n i’n gwybod bod rhai geiriau yn dod o dras Geltaidd ac nid Saesneg,” meddai wedyn. “Dim ond nawr mae pobol Gymraeg yn dechrau cymryd geiriau o’r iaith Saesneg, ac mae hynny oherwydd pethau newydd fel mobile phone er enghraifft, a dyfeisiadau newydd…

“Rwy’n Gymro er nad ydw i’n siarad Cymraeg. Ond dwi’n teimlo weithiau bod angen i ni wneud hwyl am ein pennau ein hunain yn amlach.”

 

https://www.youtube.com/watch?v=tDPcBA673m4