Mae dyn 33 oed wedi pledio’n euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug o achosi marwolaeth dynes drwy yrru’n ddiofal.

Bu farw Carol Boardman, 75, mam y seiclwr Olympaidd, Chris Boardman mewn gwrthdrawiad yng Nghei Conna, Sir y Fflint ar Orffennaf 16 2016.

Roedd Liam Rosney, 33, o Gei Conna wedi newid ei ble gan gyfaddef achosi marwolaeth Carol Boardman drwy yrru’n ddiofal cyn i’r achos ddechrau yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun (Rhagfyr 17).

Roedd wedi gwadu’r cyhuddiad mwy difrifol o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Cafodd Carol Boardman anafiadau difrifol pan gafodd ei tharo gan dryc Mitsubishi Liam Rosney ar ôl iddi syrthio oddi ar ei beic yn Cei Conna yn 2016.

Roedd yr erlyniad wedi honni ei fod ar y ffon gyda’i wraig, Victoria, eiliadau cyn i’r gwrthdrawiad ddigwydd.

Fe enillodd Chris Boardman fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn 1992.

Mae disgwyl i Liam Rosney gael ei ddedfrydu ar 31 Ionawr ac mae’r barnwr wedi rhybuddio nad yw wedi diystyru cyfnod yn y carchar.